Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad:

Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Mawrth, 17 Hydref 2023

Amser: 09.00 - 09.37
 


Preifat

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd)

Heledd Fychan

Lesley Griffiths AS

Darren Millar AS

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Yan Thomas (Dirprwy Glerc)

Eraill yn bresennol

Jane Dodds AS

David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Siwan Davies, Dirprwy Brif Weithredwr a Chlerc a Chyfarwyddwr Busnes y Senedd

Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth,

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

 

<AI1>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r pwyllgor.

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

</AI2>

<AI3>

3       Trefn Busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr wythnos hon

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. 

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.45pm.

 

Dydd Mercher

 

 

Gofynnodd Heledd Fychan a oedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddatganiad ynghylch adroddiadau ar ffigyrau amseroedd aros damweiniau ac achosion brys, yn dilyn pryderon a godwyd gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys. Nododd y Trefnydd fod swyddogion yn ystyried yr honiadau a wnaed ac y byddai'n trafod y mater ymhellach gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. 

 

</AI4>

<AI5>

3.2   Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth am y tair wythnos nesaf.

 

Dydd Mawrth 24 Hydref 2023

·         Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canllawiau Presenoldeb (30 munud)

·         Gorchymyn Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1) 2023 (5 munud)

 

</AI5>

<AI6>

3.3   Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 15 Tachwedd 2023 -

 

</AI6>

<AI7>

3.4   Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 25 Hydref:

 

Alun Davies

NNDM8381 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn credu bod yr Holodomor yn drosedd a bennwyd ymlaen llaw, a gyflawnwyd ac a arweiniwyd gan Stalin a'r Llywodraeth Sofietaidd yn erbyn pobl Wcráin. 

2. Yn ystyried bod yr Holodomor yn weithred o hil-laddiad. 

3. Yn nodi rôl hollbwysig y newyddiadurwr o Gymru, Gareth Jones, wrth ddod â chreulondeb yr Holodomor i sylw'r byd. 

4. Yn parhau i sefyll gyda phobl Wcráin wrth iddynt wynebu rhyfel anghyfreithlon Putin. 

 

A'r cynnig canlynol ar gyfer dyddiad i'w gadarnhau ym mis Tachwedd:

 

Mark Isherwood

NNDM8385 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi: 

a) bod mis Tachwedd yn Fis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas, ac mai 16 Tachwedd 2023 yw Diwrnod Byd-eang Canser y Pancreas; 

b) bod y cyfraddau goroesi yng Nghymru a'r DU yn dal i fod ar ei hôl hi o gymharu â llawer o Ewrop a'r byd; 

c) bod canser y pancreas yn anodd ei ganfod a bod diagnosis yn cymryd gormod o amser gyda phrosesau araf a phrofion niferus yn gadael pobl yn y tywyllwch; 

d) ar ôl canfod y canser, mae pobl yn wynebu rhwystrau enfawr o ran cael y wybodaeth a'r gofal sydd eu hangen arnynt i fod yn ddigon da i gael triniaeth, gyda llawer o bobl yn teimlo eu bod yn cael eu gadael heb unrhyw gynllun cymorth ar waith, a heb help i reoli symptomau; ac 

e) ar ôl cael diagnosis, dim ond 3 o bob 10 o bobl sy'n cael unrhyw driniaeth, y gyfran isaf o bob math o ganser, a bod hanner y bobl yn marw o fewn mis i'r diagnosis. 

2. Yn deall bod angen i bobl sydd â chanser y pancreas gael llwybr cyflymach a thecach a ariennir drwy gydol eu diagnosis, triniaeth a gofal, a hynny ar frys. 

3. Yn cefnogi ymdrechion Pancreatic Cancer UK i sicrhau bod llwybr o'r fath yn cael ei weithredu.  

4. Yn canmol yr holl elusennau a sefydliadau ymgyrchu a'u cefnogwyr ymroddedig am eu hymdrechion diflino i godi ymwybyddiaeth o ganser y pancreas, ac yn dymuno pob llwyddiant i bawb sy'n ymwneud â Mis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas yn eu hymdrechion. 

 

</AI7>

<AI8>

4       Pwyllgorau

</AI8>

<AI9>

4.1   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn gwneud cais i Aelodau'r Pwyllgor gael ymgymryd â busnes y pwyllgor yng Nghaeredin

Cytunodd y Pwyllgor Busnes â chais y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i’w Aelodau gael eu hesgusodi o’r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 22 Tachwedd 2023 er mwyn ymgymryd â busnes y Pwyllgor yng Nghaeredin.

 

Cofrestrodd Jane Dodds ei phryder gyda phwyllgorau yn cymryd hediadau mewnol yn sgil yr argyfwng hinsawdd.

 

</AI9>

<AI10>

5       Gwaith Gweithdrefnol

</AI10>

<AI11>

5.1   Newidiadau i'r Canllawiau ar Gwestiynau Amserol

Trafododd y Pwyllgor Busnes y newidiadau arfaethedig i'r canllawiau ar Gwestiynau Amserol, yn ymwneud â'r broses gyhoeddi, darparu gwybodaeth ategol gan Aelodau a'r nifer uchaf o Gwestiynau Amserol a fydd fel arfer yn cael eu derbyn ym mhob sesiwn, a chytunodd arnynt.

 

</AI11>

<AI12>

5.2   Papur i'w Nodi:  Terfynau amser ar atebion gweinidogol

Nododd y Pwyllgor Busnes bapur ar gyflwyno terfynau amser ar atebion gweinidogol yn Senedd yr Alban a chytunodd i ddychwelyd at drafodaeth bellach ar y pwnc hwn unwaith y bydd rhagor o wybodaeth ar gael am effaith y newid yn yr Alban.

 

</AI12>

<AI13>

6       Unrhyw Fater Arall

Tynnodd y Trefnydd sylw at yr amser gorffen hwyr a ragwelir ar gyfer trafodion dydd Mawrth 21 Tachwedd. Trafododd y Pwyllgor Busnes nifer o opsiynau posibl ar gyfer lliniaru hyn a chytunodd y Trefnydd i ystyried ymhellach cyn cynnig busnes y llywodraeth ar gyfer y dyddiad hwnnw yn y cyfarfod canlynol.

</AI13>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>